Swyddog Materion Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd
- Employer
- NFP People
- Location
- Lleolir gartref, Cymru
- Salary
- £29500 Per Annum
- Closing date
- 15 Aug 2021
View more
- Function
- Marketing, Campaigning, Policy & Research, PR & Communications
- Sector
- Community, Disability, Health & Medical
- Hours
- Full Time
- Contract Type
- Permanent
Job Details
Swyddog Materion Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd
Rydym yn chwilio am unigolyn medrus, brwdfrydig ac sydd wedi’i gymell yn dda i ymuno â’r tîm Polisi a Dylanwadu fel ein Swyddog Materion Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd yng Nghymru.
Swydd: Swyddog Materion Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd
Lleoliad: Lleolir gartref, Cymru
Oriau: 35 o oriau’r wythnos
Cyflog: Oddeutu £29,500 y flwyddyn
Contract: Parhaol
Dyddiad Cau: 15 Awst 2021
Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn dechrau ar y 23ain o Awst, 2021
Oherwydd pandemig yr haint Covid-19, cynhelir cyfweliadau drwy fideo-gynadledda. Gadewch inni wybod pan fyddwch yn e-bostio’ch cais, os gwelwch yn dda, a fydd hyn yn rhoi unrhyw heriau ichi.
Gan adrodd i’r Rheolwr Materion Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd, ac yn gweithio’n agos iawn â’r Arweinydd Polisi a Dylanwadu cenedl benodol, fe fyddwch yn darparu gweithgareddau materion cyhoeddus ac ymgyrchoedd integredig ein sefydliad ar gyfer Cymru. Fe fyddwch yn cynllunio, yn datblygu ac yn cyflenwi gweithgareddau dylanwadu effeithiol a strategol i helpu i gyflawni amcanion ein tîm ar faterion allweddol sy’n effeithio ar bobl yr effeithir arnynt gan strôc.
Bydd cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:
- darparu gweithgareddau materion cyhoeddus ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i gynorthwyo blaenoriaethau dylanwadu’r sefydliad.
- olrhain a chofnodi cysylltiadau â rhanddeiliaid a chymryd y prif gyfrifoldeb am reoli gwaith â rhanddeiliaid gwleidyddol.
- darparu monitro gwleidyddol a sganio’r gorwel.
- cynllunio a gweithredu ymgyrchoedd a gweithgareddau eiriolaeth – a hynny ar-lein ac all-lein – sy’n helpu i sicrhau gwelliannau dros y cyfnod hir i’r rheiny yr effeithir arnynt gan strôc.
- mynychu, a chynorthwyo eraill i fynychu, cyfarfodydd a digwyddiadau sy’n cynrychioli’r Gymdeithas Strôc, yn cynnwys datblygu cyfarwyddiadau o ansawdd uchel.
- treulio cyfradd sylweddol o’u hamser yn cynorthwyo gweithgareddau materion cyhoeddus ac ymgyrchoedd drwy’r Deyrnas Unedig, hefyd.
Fe fydd gennych:
- Rhywfaint o brofiad o ddylanwadu, ymgyrchu ac eiriolaeth ar lefel genedlaethol neu leol.
- Dealltwriaeth gadarn o’r cyd-destun gwleidyddol ac iechyd yng Nghymru.
- Profiad o gynnal dadansoddiad o bolisi a sganio’r gorwel.
- Gallu i fagu perthnasoedd cryf â rhanddeiliaid allweddol.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a geiriol ardderchog, gyda phrofiad o ddatblygu cyfarwyddiadau ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd.
Gallwch ganfod mwy o wybodaeth yn y proffil o’r rôl.
Rydym yn gweithio i wella amrywiaeth ein tîm. Oherwydd rydym yn gwybod bod unigoliaeth yn arwain at brofiad cyfoethocach i’n pobl a gwell cefnogaeth i’r rheiny yr effeithir arnynt gan strôc.
Rydym yn annog yn gryf i bobl o bob cefndir i ymgeisio. Ac rydym yn neilltuol yn ceisio cynyddu nifer y ceisiadau gan y rheiny sydd â phrofiad o fyw â strôc a’r rheiny o gymunedau na chânt eu cynrychioli’n ddigonol.
I allu cyflawni’r rôl, mae’n rhaid ichi fod yn byw a bod â’r hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig.
Company
We are Not-For-Profit People.
We recruit exclusively for organisations in the challenging Not-For-Profit sector. We’re fully behind the charities and bodies that aim to change the world – one project at a time. Whether you’re seeking exceptional leaders, committed staff or a combination of the two, you probably want to know exactly how we’re different and why it matters to you. We don’t do business as usual. We deliver a recruitment solution that replaces clunky, costly, contracted processes with a single, seamless solution.
- Website
- http://www.nfp-people.co.uk/
- Telephone
- 01234 815658
- Location
-
6 West Street
Olney
Buckinghamshire
MK46 5HR
GB
Get job alerts
Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.
Create alert