Skip to main content

This job has expired

Swyddog Materion Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd

Employer
NFP People
Location
Lleolir gartref, Cymru
Salary
£29500 Per Annum
Closing date
15 Aug 2021

Job Details

Swyddog Materion Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd

Rydym yn chwilio am unigolyn medrus, brwdfrydig ac sydd wedi’i gymell yn dda i ymuno â’r tîm Polisi a Dylanwadu fel ein Swyddog Materion Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd yng Nghymru.

Swydd: Swyddog Materion Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd

Lleoliad: Lleolir gartref, Cymru

Oriau: 35 o oriau’r wythnos

Cyflog: Oddeutu £29,500 y flwyddyn

Contract: Parhaol

Dyddiad Cau: 15 Awst 2021

Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn dechrau ar y 23ain o Awst, 2021

Oherwydd pandemig yr haint Covid-19, cynhelir cyfweliadau drwy fideo-gynadledda. Gadewch inni wybod pan fyddwch yn e-bostio’ch cais, os gwelwch yn dda, a fydd hyn yn rhoi unrhyw heriau ichi.

Gan adrodd i’r Rheolwr Materion Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd, ac yn gweithio’n agos iawn â’r Arweinydd Polisi a Dylanwadu cenedl benodol, fe fyddwch yn darparu gweithgareddau materion cyhoeddus ac ymgyrchoedd integredig ein sefydliad ar gyfer Cymru. Fe fyddwch yn cynllunio, yn datblygu ac yn cyflenwi gweithgareddau dylanwadu effeithiol a strategol i helpu i gyflawni amcanion ein tîm ar faterion allweddol sy’n effeithio ar bobl yr effeithir arnynt gan strôc.

Bydd cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:

 

  • darparu gweithgareddau materion cyhoeddus ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i gynorthwyo blaenoriaethau dylanwadu’r sefydliad.
  • olrhain a chofnodi cysylltiadau â rhanddeiliaid a chymryd y prif gyfrifoldeb am reoli gwaith â rhanddeiliaid gwleidyddol.
  • darparu monitro gwleidyddol a sganio’r gorwel.
  • cynllunio a gweithredu ymgyrchoedd a gweithgareddau eiriolaeth – a hynny ar-lein ac all-lein – sy’n helpu i sicrhau gwelliannau dros y cyfnod hir i’r rheiny yr effeithir arnynt gan strôc.
  • mynychu, a chynorthwyo eraill i fynychu, cyfarfodydd a digwyddiadau sy’n cynrychioli’r Gymdeithas Strôc, yn cynnwys datblygu cyfarwyddiadau o ansawdd uchel.
  • treulio cyfradd sylweddol o’u hamser yn cynorthwyo gweithgareddau materion cyhoeddus ac ymgyrchoedd drwy’r Deyrnas Unedig, hefyd.

 

Fe fydd gennych:

 

  • Rhywfaint o brofiad o ddylanwadu, ymgyrchu ac eiriolaeth ar lefel genedlaethol neu leol.
  • Dealltwriaeth gadarn o’r cyd-destun gwleidyddol ac iechyd yng Nghymru.
  • Profiad o gynnal dadansoddiad o bolisi a sganio’r gorwel.
  • Gallu i fagu perthnasoedd cryf â rhanddeiliaid allweddol.
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a geiriol ardderchog, gyda phrofiad o ddatblygu cyfarwyddiadau ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd.

 

Gallwch ganfod mwy o wybodaeth yn y proffil o’r rôl.

Rydym yn gweithio i wella amrywiaeth ein tîm. Oherwydd rydym yn gwybod bod unigoliaeth yn arwain at brofiad cyfoethocach i’n pobl a gwell cefnogaeth i’r rheiny yr effeithir arnynt gan strôc.

Rydym yn annog yn gryf i bobl o bob cefndir i ymgeisio. Ac rydym yn neilltuol yn ceisio cynyddu nifer y ceisiadau gan y rheiny sydd â phrofiad o fyw â strôc a’r rheiny o gymunedau na chânt eu cynrychioli’n ddigonol.

I allu cyflawni’r rôl, mae’n rhaid ichi fod yn byw a bod â’r hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig.

Company

We are Not-For-Profit People.

We recruit exclusively for organisations in the challenging Not-For-Profit sector. We’re fully behind the charities and bodies that aim to change the world – one project at a time. Whether you’re seeking exceptional leaders, committed staff or a combination of the two, you probably want to know exactly how we’re different and why it matters to you. We don’t do business as usual. We deliver a recruitment solution that replaces clunky, costly, contracted processes with a single, seamless solution.

Company info
Website
Telephone
01234 815658
Location
6 West Street
Olney
Buckinghamshire
MK46 5HR
GB

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert