Skip to main content

This job has expired

Cydlynydd Prosiect Childcare Works

Employer
NFP People
Location
Cardiff
Salary
£24000 Per Annum
Closing date
11 Apr 2021

View more

Function
Training, Human Resources
Sector
Children & Youth, Education
Hours
Full Time
Contract Type
Contract

Job Details

Mae cyfle cyffrous wedi codi am Gydlynydd Prosiect yw sicrhau bod prosiect Cam 2 Childcare Works a’i gyflenwi yn effeithiol yn yr awdurdodau lleol canlynol: Caerdydd, Casnewydd, Torfaen a Rhondda Cynon Taff ardaloedd De Cymru. Bydd hyn yn cynnwys gweithio ar y cyd â chyfundrefnau eraill, i recriwtio pobl (cyfranogwyr) sy’n economaidd anweithiol, dros 25 oed, i’w cefnogi wrth iddynt ddychwelyd i fyd cyflogaeth, hyfforddiant neu brentisiaeth

Rôl swydd : Cydlynydd Prosiect Childcare Works

Lleoliad: Seiliedig yn y cartref, yn ymdrin â meysydd Caerdydd, Casnewydd, Torfaen a Rhondda Cynon

Taff

Oriau: Llawn Amser (37 awr yr wythnos)

Band Cyflog: £24,000 y flwyddyn

Hyd y penodiad: Mae’r swydd hon yn gontract dros dro sydd wedi ei ariannu hyd at Rhagfyr 31ain 2021 (Bydd unrhyw estyniad yn amodol ar ariannu ychwanegol.)

Budd-daliadau: 25 diwrnod o wyliau â thâl (yn codi i 29 diwrnod gyda chynyddiadau gwasanaeth) ac 8 gwyliau banc, Cynllun Pensiwn Personol, Cynlluniau arian iechyd, Gostyngiadau ar-lein Cynllun, Rhaglenni cymorth i gyflogeion, Cynllun Gwobrau Staff, Cynllun Tâl Salwch Cwmni, Patrymau gweithio hyblyg

Dyddiad cau: 11eg Ebrill

Dyddiad y cyfweliad: 14eg Ebrill

Mae prosiect Cam 2 Childcare Works wedi ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru hyd at Ragfyr 2021 ac yn dilyn llwyddiant ein rhaglenni cyflogaeth a gefnogwyd yn flaenorol. Bydd y prosiect hwn yn cael ei gyflenwi mewn wyth awdurdod lleol ledled Cymru yn ystod y cyfnod o Ebrill 2011 hyd at Rhagfyr 2021. Bydd y prosiect yn rhoi cyflogaeth dan gymorth i 32 o gyfranogwyr, 25 mlwydd oed a throsodd, gan roi iddynt amrediad o sgiliau trosglwyddadwy i’w galluogi i sicrhau cyflogaeth, hyfforddiant neu brentisiaeth yn y dyfodol yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant. Bydd y cyfranogwyr hyn yn cael eu cyflogi gan fel Cynorthwywyr Meithrin dan Hyfforddiant tra byddant yn rhan o brosiect Childcare Works. Bydd tîm y prosiect yn cyflenwi hyfforddiant, yn darparu cyflogaeth dan gymorth ac arweiniad, yn gweithio gyda sefydliadau a rhanddeiliaid i sicrhau bod targedau’r contract yn cael eu cyrraedd yn llawn. Bydd hyn yn cynorthwyo cyfranogwyr wrth iddynt geisio cyflogaeth yn y dyfodol, ac yn rhoi iddynt wybodaeth danategol a’r hyder gofynnol i ymgymryd â chymwysterau Gofal Plant, Chwarae, Dysgu a Datblygu (CCPLD), hyfforddiant pellach neu brentisiaeth.

Y rôl

Bydd y Cydlynydd Prosiect yn cyflenwi hyfforddiant, yn darparu cyflogaeth dan gymorth ac arweiniad, yn gweithio gyda sefydliadau a rhanddeiliaid i sicrhau bod targedau’r contract yn cael eu cyrraedd yn llawn.

Prif ddyletswyddau:

 

  • Datblygu perthnasoedd â sefydliadau sy’n aelodau a lleoliadau gofal-plant eraill.
  • Rheoli gweithdrefnau a systemau i fonitro a gwerthuso prosiect Cam 2
  • Cynnal systemau er mwyn casglu data
  • Ymgymryd â monitro’r gyllideb a chasglu tystiolaeth, gan roi adroddiadau ar wariant
  • Goruchwylio gwaithleoliadau 16 Cynorthwyydd Meithrin dan Hyfforddiant, gan ddarparu cyfathrebu a chefnogaeth reolaidd drwy gydol y prosiect.

 

Amdanat ti

Fel Cydlynydd y Prosiect, bydd gennych brofiad o:

 

  • Gyflenwi cyrsiau hyfforddi ar-lein ac yn bersonol
  • Gweithio ar y cyd â rheolwyr i gyrraedd amcanion a cherrig milltir a bennwyd
  • Gweithio gydag amrywiaeth o wahanol bobl a lleoliadau ac adeiladu perthnasoedd ar bob lefel
  • Gydlynu Prosiectau
  • Rheoli llwyth gwaith sy’n ateb y galw
  • Datblygu cynlluniau gweithredu a’u rhoi ar waith
  • Gwasanaeth cwsmeriaid

 

Bydd gennych:

 

  • Sgiliau rheoli-amser rhagorol
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol; yn ysgrifenedig, llafar a thrwy gyflwyniadau
  • Sgiliau trefniadol cryf, a’r gallu i arolygu staff er mwyn iddynt ddwyn canlyniadau yn gyson
  • Y gallu i gynhyrchu adroddiadau cywir a dadansoddi data
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r dirwedd blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru

 

I wneud cais gofynnwn i chi cyflwyno CV a llythyr cyflwyno yn manylu ar sut y mae’ch sgiliau, eich gwybodaeth a’ch profiad yn ateb gofynion y rôl.

Am y sefydliad

Y sefydliad yw elusen genedlaethol a’r gymdeithas aelodau sy’n cynrychioli meithrinfeydd dydd plant ar draws y DU. Maen nhw'n gweithio gyda llywodraethau lleol a chenedlaethol i ddatblygu amgylchedd lle y gall addysg a gofal blynyddoedd-cynnar o ansawdd ffynnu

Blynyddoedd Cynnar, Gofal plant, Gofal plant yn gweithio, Cydlynydd Prosiect, Hyfforddiant, Hyfforddwr, Dychwelyd i'r gwaith, Cyflogaeth, Rhaglen, Rhaglenni, Cynghorydd cyflogaeth, Ymarferydd, Meithrinfa, Cydlynydd gofal plant, Recriwtio, Sefydlu, Rhaglenni hyfforddi, Hyfforddai, Prentisiaethau, Hyfforddiant a datblygiad, Dysgu a datblygu,AD, Adnoddau Dynol, Addysg, Aelodaeth

Company

We are Not-For-Profit People.

We recruit exclusively for organisations in the challenging Not-For-Profit sector. We’re fully behind the charities and bodies that aim to change the world – one project at a time. Whether you’re seeking exceptional leaders, committed staff or a combination of the two, you probably want to know exactly how we’re different and why it matters to you. We don’t do business as usual. We deliver a recruitment solution that replaces clunky, costly, contracted processes with a single, seamless solution.

Company info
Website
Telephone
01234 815658
Location
6 West Street
Olney
Buckinghamshire
MK46 5HR
GB

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert