Skip to main content

This job has expired

Support and Engagement Officer (Wales)/Swyddog Ymgysylltu a Chymorth – Cymru

Employer
Genetic Alliance UK
Location
Wales
Salary
£25,606-£28,240 (pro rata) depending on experience/£25,606-£28,240 (pro rata) yn ddibynnol ar brofia
Closing date
21 Nov 2020

JOB DESCRIPTION

Job title: Engagement and Support Officer – Wales
Employer: Genetic Alliance UK
Location: Home based
Line Manager: Director of Support
Salary: £25,606-£28,240 (pro rata) depending on experience
Term: 21 hours a week, fixed term for three years.
This post is subject to a six-month probation period.

ABOUT GENETIC ALLIANCE UK AND SWAN UK (SYNDROMES WITHOUT A NAME):

Genetic Alliance UK is the national charity of over 200 patient organisations supporting all those affected by genetic conditions. Our aim is to improve the lives of people affected by genetic conditions, ensuring that high quality services and information are available to all who need them.

SWAN UK (syndromes without a name) is a support network run by Genetic Alliance UK. It is the only dedicated support in the UK for families of children affected by a syndrome without a name – a genetic condition so rare it may never be diagnosed. We enable families to make contact with others who understand the unique challenges of raising a child affected by an undiagnosed genetic condition, offer access to information and support through our online forums and our Local Networks, run regular free events to bring families together and provide opportunities to make precious memories.

ROLE:

This role is central to the development of the support we offer to families affected by rare and undiagnosed genetic conditions in Wales.  Working closely with the Policy and Engagement Manager for Wales, the post holder will be line managed by the Director of Support  (based in London) to deliver information and support tailored to the needs identified by Welsh families.

KEY RESPONSIBILITIES:

Assist with the development of Wales-specific support and information for parents of children affected by rare and undiagnosed genetic conditions.

  • Involve local parents through a variety of online activities and consultation events to help produce an early intervention information toolkit for Wales – The Rare Resources (Wales).
  • Deliver outreach activities and events (including well-being activities, family events and information events) to engage with parents of rare and undiagnosed genetic conditions and increase Welsh membership of SWAN UK.
  • Help recruit, train and support Welsh volunteer Parent Reps.
  • Assist with the facilitation of the SWAN UK Welsh Facebook Group.
  • Work in partnership with key local organisations to deliver holistic support.

Raise awareness of rare and undiagnosed genetic conditions.

  •  Be the local point of contact for enquiries.
  • Help develop relevant and high-quality information in English and Welsh to increase engagement and understanding of the impact of rare and undiagnosed genetic conditions.
  • Network with local services and organisations to educate local professionals.
  • Help develop and implement the communications strategy for the annual Undiagnosed Children’s Day and monitor its impact.
  • Recruit and support Welsh volunteers from the rare and undiagnosed community to share their stories, be media volunteers and take an active role in our outreach and policy activities.

Assist with the monitoring of our work against specified project outcomes.

  • Maintain records of activities and the impact of our work.
  • Help recruit participants to take part in the project evaluation.

Any other tasks as reasonably required by Genetic Alliance UK.

Education and qualifications

  • Graduate level or equivalent experience.

Essential qualities, skills and experience

  • Experience of working in a similar role developing information and/or supporting vulnerable people.
  • English and Welsh language fluency (written and spoken).
  • High level of IT literacy with experience of social media platforms including Facebook, Twitter and Instagram.
  • Outstanding written and verbal communication skills with a strong attention to detail.
  • An empathetic attitude and enthusiasm for understanding the complexities and impact that undiagnosed and rare genetic conditions can have on family life.
  • Excellent organisational skills and the ability to effectively and independently organise own time, plan ahead, keep records and manage and prioritise deadlines.
  • A creative, ideas driven attitude with the ability to work independently and demonstrate initiative whilst working as part of a remote team.
  • Ability to work occasional evenings and weekends and occasionally travel in the UK, including some overnight stays.
  • A commitment to the aims and objectives of Genetic Alliance UK and SWAN UK.

Desirable qualities, skills and experience

  • Experience of working with families of disabled children.
  • Experience of working with volunteers in a paid or voluntary capacity.
  • Experience of organising events.
  • Knowledge of the Welsh education, health and social care system.

APPLICATION DETAILS:

  • Deadline for applications: Friday 13 November.
  • Interviews: week of 23 November.
  • Start date: As soon as possible.

Please email a CV and cover letter (in English) to: Lauren Roberts, Director of Support: recruitment@geneticalliance.org.uk.

Your cover letter should provide detail on why you are suitable for this role and include examples of previous work, whenever possible. Please save your documents as Fullname.CV and Fullname.Coverletter and state your name and post applied for in the email subject line. Applications without cover letters will not be considered.

 

Teitl y Swydd: Swyddog Ymgysylltu a Chymorth – Cymru
Cyflogwr: Genetic Alliance UK
Man gwaith: Gweithio o gartref
Rheolwr Llinell: Cyfarwyddwr Cymorth
Cyflog: £25,606-£28,240 (pro rata) yn ddibynnol ar brofiad
Cyfnod: 21 awr yr wythnos, cyfnod penodol am dair blynedd
Mae’r swydd hon yn ddibynnol ar gyfnod prawf o chwe mis

GWYBODAETH AM GENETIC ALLIANCE UK A SWAN UK (SYNDROMES WITHOUT A NAME):

Mae Genetic Alliance UK yn elusen genedlaethol i fwy na 200 o sefydliadau i gleifion sydd yn cefnogi pawb y mae cyflyrau genetig yn effeithio arnynt. Ein nod yw gwella bywydau pobl y mae cyflyrau genetig yn effeithio arnynt, a gofalu bod gwasanaethau a gwybodaeth o safon uchel ar gael i bawb sydd yn gweld eu hangen.

Rhwydwaith cymorth yw SWAN UK sydd yn cael ei redeg gan Genetic Alliance UK. Dyma’r unig gymorth yn y DU sydd yn arbennig ar gyfer teuluoedd plant sydd â syndrom heb enw – cyflwr genetig sydd mor brin na chaiff fyth ddiagnosis efallai. Rydym yn galluogi teuluoedd i ddod i gysylltiad ag eraill sydd yn deall heriau unigryw magu plentyn sydd â chyflwr genetig heb ddiagnosis. Mae ein fforymau ar-lein a’n Rhwydweithiau Lleol yn rhoi modd i gael gafael ar wybodaeth a chymorth, ac rydym yn cynnal digwyddiadau am ddim yn gyson i ddod â theuluoedd ynghyd a rhoi cyfleoedd i greu atgofion gwerthfawr.

RÔL:

Mae’r rôl hon yn ganolog i ddatblygu’r cymorth yr ydym yn ei gynnig i deuluoedd yng Nghymru y mae cyflyrau genetig prin a heb ddiagnosis yn effeithio arnynt. Drwy weithio’n agos gyda Rheolwr Polisi ac Ymgysylltu Cymru, bydd deilydd y swydd yn darparu gwybodaeth a chymorth sydd yn benodol i anghenion teuluoedd yng Nghymru, a hynny dan reolaeth linell y Cyfarwyddwr Cymorth (sydd yn gweithio yn Llundain).

CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL:

Cynorthwyo i ddatblygu cymorth a gwybodaeth sydd yn benodol i Gymru, ar gyfer rhieni plant y mae cyflyrau genetig prin a heb ddiagnosis yn effeithio arnynt.

  • Cynnwys rhieni lleol drwy amrywiaeth o weithgareddau ar-lein a digwyddiadau ymgynghori i helpu cynhyrchu pecyn gwybodaeth ar ymyrraeth gynnar i Gymru – Adnoddau Prin (Cymru).
  • Darparu gweithgareddau a digwyddiadau allgymorth (gan gynnwys gweithgareddau lles, digwyddiadau i’r teulu a digwyddiadau gwybodaeth) i gyrraedd rhieni plant sydd â chyflyrau genetig prin a heb ddiagnosis, a chodi nifer aelodau SWAN UK yng Nghymru.
  • Helpu i recriwtio, hyfforddi a chefnogi Cynrychiolwyr Rhieni gwirfoddol yng Nghymru.
  • Helpu i hwyluso Grŵp Facebook SWAN UK i Gymru.
  • Gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau allweddol lleol i ddarparu cymorth holistaidd.

Codi ymwybyddiaeth o gyflyrau genetig prin a heb ddiagnosis.

  • Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau yn lleol.
  • Helpu i ddatblygu gwybodaeth sydd yn berthnasol ac o safon uchel, yn y Gymraeg a’r Saesneg i godi lefel yr ymgysylltu a dealltwriaeth o effaith cyflyrau genetig prin a heb ddiagnosis.
  • Rhwydweithio gyda gwasanaethau a sefydliadau lleol i addysgu gweithwyr proffesiynol lleol.
  • Helpu i ddatblygu a gweithredu’r strategaeth gyfathrebu ar gyfer Diwrnod Plant heb Ddiagnosis, a gynhelir pob blwyddyn, a monitro effaith y strategaeth honno.
  • Recriwtio a chefnogi gwirfoddolwyr o’r gymuned cyflyrau prin a heb ddiagnosis yng Nghymru, i rannu eu hanesion, bod yn wirfoddolwyr y cyfryngau, a chwarae rhan flaenllaw yn ein gweithgareddau allgymorth a pholisi.

Cynorthwyo i fonitro ein gwaith yn erbyn deilliannau prosiect penodol.

  • Cadw cofnodion am weithgareddau ac effaith ein gwaith.
  • Helpu i recriwtio aelodau i gymryd rhan i werthuso’r prosiect.

Unrhyw dasgau eraill rhesymol ar gais Genetic Alliance UK.

Addysg a Chymwysterau

  • Lefel gradd neu brofiad cyfatebol.

Rhinweddau, sgiliau a phrofiad hanfodol.

  • Profiad o weithio mewn rôl debyg yn datblygu gwybodaeth ac/neu gefnogi pobl fregus.
  • Rhuglder yn y Gymraeg a’r Saesneg (siarad ac ysgrifenedig).
  • Lefel uchel o sgiliau TG a phrofiad o lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Facebook, Twitter ac Instagram.
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, gyda sylw craff i fanylder.
  • Dangos empathi a brwdfrydedd tuag at ddeall cymhlethdodau ac effaith cyflyrau genetig prin a heb ddiagnosis ar fywyd teuluol.
  • Sgiliau trefniadaeth rhagorol a’r gallu i drefnu eich amser eich hun, cynllunio ymlaen, cadw cofnodion a rheoli a blaenoriaethu dyddiadau cwblhau, yn effeithiol ac yn annibynnol.
  • Creadigrwydd a dyfeisgarwch a’r gallu i weithio’n annibynnol a dangos menter wrth weithio fel rhan o dîm o bell.
  • Gallu gweithio ambell noson a phenwythnos, a theithio yn y DU yn achlysurol, gan gynnwys aros dros nos weithiau.
  • Ymrwymiad i nodau ac amcanion Genetic Alliance UK a SWAN UK.

Rhinweddau, sgiliau a phrofiad dymunol

  • Profiad o weithio gyda theuluoedd plant anabl.
  • Profiad o weithio gyda gwirfoddolwyr, am dâl neu’n wirfoddol.
  • Profiad o drefnu digwyddiadau.
  • Gwybodaeth am y gyfundrefn addysg, iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

MANYLION GWNEUD CAIS:

  • Dyddiad cau ceisiadau: Dydd Gwener, 13 Tachwedd.
  • Cyfweliadau: wythnos 23 Tachwedd.
  • Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosibl.

Anfonwch e-bost gyda’ch CV a llythyr eglurhaol (yn Saesneg) at: Lauren Roberts, Cyfarwyddwr Cymorth: recruitment@geneticalliance.org.uk.

Yn eich llythyr, dylech roi manylion pam eich bod yn addas i’r rôl hon gan roi enghreifftiau o waith blaenorol, ble bynnag mae modd. Cofiwch gadw eich dogfen fel Enwllawn.CV ac Enwllawn.Coverletter gan nodi eich enw a’r swydd rydych chi’n gwneud cais amdani yn llinell pwnc yr e-bost. Ni chaiff ceisiadau eu hystyried heb lythyr eglurhaol.

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert