Skip to main content

This job has expired

Head of Policy & Campaigns

Employer
Citizens Advice
Location
Cardiff
Salary
£52,704 per annum
Closing date
17 Jun 2019

Citizens Advice provides free, independent and impartial advice and information to help people resolve their legal, money and other problems. In the past year we have helped over 2.5 million people solve over 6.2 million problems. Our national network delivers services from over 3,000 locations in England and Wales.

We are looking for an outstanding person to lead our Wales Policy and Campaigns team based in Cardiff. 

This is an exciting opportunity to work on the big issues facing people across England and Wales today, joining a team with a track record of achieving change.

We’re an organisation with a relentless focus on making society fairer. Each year we help 2.7 million people to solve their problems across England and Wales. This data and our reputation give us unparalleled influence. We have a unique insight into emerging trends and issues affecting people, and we use it to work with government, regulators and industry to improve people's lives. Examples of our recent work in England and Wales includes securing significant improvements to Universal Credit, leading the debate on ‘loyalty penalty’ rip-offs, pushing for a ban on letting agent fees and capping the cost of rent to own good.

This role will work closely with colleagues across the organisation to maximise the impact we have for our clients in Wales. In Wales we have a network of 19 local Citizens Advice - all individual charities, staffed by nearly 800 dedicated volunteers and paid staff.  We deliver advice from over 375 community locations in Wales, as well as offering services over the phone and online. 

This could include leading work on devolved issues such as housing and health & social care policy, but also promoting and influencing around our GB work in Wales, ranging from universal credit to household debt. 

You will be responsible for a programme of policy research, and will lead campaigns, public affairs and news work within Wales. You’ll work across policy areas and support junior members of the team to reach their potential. Our strong brand will give you unique opportunities to engage with those who have the power to make change. You’ll influence MPs, Assembly Members and civil servants, regulators and industry bodies, on behalf of the people who rely on Citizens Advice.  To give you an idea of what it's like to work in our policy research teams, 4 team members share examples of a day in their lives in this recent blog post.

We are looking for someone with a wide range of skills, from exceptional judgement and excellent stakeholder management, to the personal authority required to be a leader in a large organisation.

Closing date: 17/06/2019

Interview date: w/c 24 June

We are happy to consider flexible working, which may include arrangements such as part-time working, formalised flexitime, fixed (non-standard) working hours, working from home and job-sharing.
  
We particularly welcome applications from disabled and Black, Asian and Minority Ethnic (BAME) candidates as BAME and disabled people are currently under-represented throughout Citizens Advice. We are a member of the race equality campaign at Business in the Community, the Prince’s responsible business network and are committed to improving employment opportunities for ethnic minorities across the UK. We also welcome applications from LGB and Trans and non binary candidates.

We have made a positive commitment to employing disabled people and guarantee to interview all disabled candidates who meet the minimum essential criteria for the role as set out in role profiles.

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor am ddim ar-lein, dros y ffôn, ac wyneb yn wyneb. Trwy’n rhwydwaith cenedlaethol o elusennau, rydym yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder i bobl ffeindio’u ffordd ymlaen - pwy bynnag ydyn nhw, beth bynnag fo’r broblem. Yn 2017-18, fe wnaethom ni helpu 2.6 miliwn o bobl wyneb yn wyneb, dros y ffôn, ar-lein a thrwy sgyrsfan, ac ymwelodd pobl â’n tudalennau cynghori ar-lein 25 miliwn o weithiau. Rydym yn rhoi cymorth ar bopeth, o drafferthion ariannol i broblemau yn y gwaith, materion tai a hawliau defnyddwyr. Nawr, hoffem wneud hyd yn oed mwy.

Rydym yn chwilio am rywun eithriadol i arwain ein tîm Polisi ac Ymgyrchoedd ar gyfer Cymru yng Nghaerdydd.

Dyma gyfle cyffrous i ymdrin â’r materion a’r problemau o bwys sy’n wynebu pobl ledled Cymru a Lloegr heddiw, ac ymuno â thîm sydd â hanes da o gyflawni newid.

Creu cymdeithas decach – dyna yw pwyslais di-ildio ein sefydliad. Bob blwyddyn, rydym yn helpu 2.7 miliwn o bobl i ddatrys eu problemau ar hyd a lled Cymru a Lloegr. Mae’r data hwn a’n henw da yn golygu bod gennym ddylanwad heb ei ail. Mae gennym ddealltwriaeth unigryw o’r tueddiadau a’r datblygiadau sy’n effeithio ar bobl ac rydym yn defnyddio hynny i weithio gyda llywodraeth, rheoleiddwyr a diwydiant i wella bywydau pobl.

Mae’r swydd hon yn golygu gweithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad i sicrhau’r dylanwad mwyaf posibl ar ran ein cleientiaid yng Nghymru. Mae gennym rwydwaith o 19 Cyngor ar Bopeth lleol yma yng Nghymru – pob un yn elusen unigol ac wedi’u staffio gan bron i 800 o wirfoddolwyr a staff cyflogedig ymroddedig. Rydym yn cynghori pobl mewn dros 375 o leoliadau cymunedol yng Nghymru, yn ogystal â chynnig gwasanaethau dros y ffôn ac ar-lein.

Gall hynny gynnwys arwain gwaith ar faterion sydd wedi’u datganoli fel tai a’r polisi iechyd a gofal cymdeithasol, ond hefyd hyrwyddo a dylanwadu ar waith Prydain gyfan yng Nghymru - o’r credyd cynhwysol i ddyledion aelwydydd.

Byddwch yn gyfrifol am raglen ymchwil polisi, ac yn arwain ymgyrchoedd, materion cyhoeddus a gwaith newyddion yma yng Nghymru. Byddwch yn gweithio ar draws ein meysydd polisi ac yn helpu aelodau iau o’r tîm i gyflawni eu gorau. Bydd ein brand cryf yn rhoi cyfleoedd unigryw i chi ymgysylltu â’r rhai sydd â’r grym i newid pethau. Byddwch yn dylanwadu ar Aelodau Cynulliad, Aelodau Seneddol a gweision sifil, rheoleiddwyr a chyrff diwydiannol, ar ran y bobl sy’n dibynnu ar Cyngor ar Bopeth.

Rydym yn chwilio am rywun ag amrywiaeth eang o sgiliau, o sgiliau crebwyll a rheoli rhanddeiliaid ardderchog, i fedru arwain sefydliad mawr.

Rydym yn hapus i ystyried gweithio hyblyg, a all gynnwys trefniadau fel gweithio rhan-amser, oriau hyblyg ffurfiol, oriau gwaith sefydlog (ansafonol), gweithio o gartref a rhannu swydd.

Croesawn yn arbennig geisiadau gan ymgeiswyr anabl a Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) gan fod pobl BAME a phobl anabl yn cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd ledled Cyngor ar Bopeth. Rydym yn aelod o'r ymgyrch cydraddoldeb hiliol yn Busnes yn y Gymuned, rhwydwaith busnes cyfrifol y Tywysog ac rydym wedi ymrwymo i wella cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer lleiafrifoedd ethnig ledled y DU. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr LGBT ac ymgeiswyr anneuaidd.

Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarnhaol i gyflogi pobl anabl a gwarantu cyfweld i bob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol sylfaenol ar gyfer y rôl fel y nodir mewn proffiliau rôl.

Wrth asesu ceisiadau, rydym yn gwneud penderfyniadau ar sail ansawdd a pherthnasedd yr enghreifftiau a'r dystiolaeth rydych yn eu darparu ar gyfer sut rydych chi'n bodloni'r fanyleb person. Gallwch ddarllen canllawiau pellach ar sut i lenwi ein ffurflen gais yma. Efallai y byddwch am ddefnyddio'r dull S.T.A.R. wrth amlinellu sut rydych chi'n bodloni ein gofynion:

● Penodol - rhowch enghraifft benodol
● Tasg - disgrifiwch yn gryno y dasg / amcan / broblem
● Gweithredu - dywedwch wrthym beth wnaethoch chi
● Canlyniadau - disgrifiwch y canlyniadau a gyflawnwyd

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert